Mae Met Community yn cynnig amrywiaeth o weithdai ac adnoddau i helpu'r rhai sy'n gweithio ym maes addysg gorfforol i ddatblygu a chyflwyno gwersi sy'n cynnwys pobl anabl.
Ein Cenhadaeth
Sicrhau bod plant a phobl ifanc anabl yn cael addysg gorfforol o ansawdd uchel, boed hynny mewn sesiynau cwricwlaidd neu allgyrsiol.
Mae cynhwysiant yn sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon hyd eithaf eu galluoedd a'u dyheadau.
~ Joanna Coates-McGrath, Cydgysylltydd Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Anabledd
Chwarae gyda'n gilydd
Nod cyffredinol y gweithdy hwn yw hyfforddi eich dosbarth mewn cynhwysiant anabledd a chynnig ffyrdd ymarferol i gyfoedion anabl gael eu cynnwys yn well mewn Addysg Gorfforol a gemau yn yr ysgol.