Trwy brosiectau amrywiol mae Cymuned y Met yn helpu teuluoedd i dreulio mwy o amser gyda'i gilydd a darganfod manteision teuluol chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chwarae.
Ein Cenhadaeth
Lleihau'r bylchau mewn cyfranogiad a grëir gan anfantais ac anghydraddoldeb drwy ryddhau manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol i wella iechyd a lles.
Rydym yn cefnogi teuluoedd i ddatblygu cysylltiadau cryfach trwy chwarae gyda'i gilydd a thrwy barhau i fod yn egnïol yn gorfforol!
~ Dan Hilltout, Rheolwr Llwybr Pobl Ifanc Egnïol
Prosiectau Cyfredol
Hwyl i'r Teulu
Mae'r prosiect Hwyl i Deuluoedd yn rhoi cyfleoedd fforddiadwy i deuluoedd ddysgu sut y gall chwaraeon a gweithgarwch corfforol gyfrannu at ddatblygu perthnasoedd cryf a chadarnhaol.
Egnïol Gartref - Oedolyn
Rydym wedi gweithio gyda Met Active i lunio cyfres o fideos ymarfer corff cartref i oedolion!
Egnïol Gartref - Plentyn
Rydym wedi bod yn brysur yn dosbarthu 200 o becynnau Cartref Egnïol ledled Caerdydd i gadw plant yn egnïol yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae ceisiadau am becynnau bellach wedi cau.