Mae Llysgenhadon Ifanc wedi'u cynllunio i feithrin sgiliau arwain pobl ifanc, gan eu grymuso i fod yn llais ieuenctid ar gyfer Addysg Gorfforol a chwaraeon ysgol yn eu hysgol a'u cymuned.

 

Beth yw Llysgenhadon Ifanc

Chwaraeon i bobl ifanc | Chwaraeon Cymru 

  • Gweledigaeth: Mudiad arweinyddiaeth ieuenctid gyda'r nod o ddatblygu arweinwyr Cymru yn y dyfodol trwy chwaraeon, gweithgaredd corfforol a chwarae. Bydd Llysgenhadon Ifanc yn defnyddio eu rôl i ysbrydoli, dylanwadu, arwain, a mentora o fewn ac ar draws addysg a chymunedau, i gysylltu a chefnogi cymdeithas i fod yn iach ac yn egnïol. 

  • Cenhadaeth: Darparu cefnogaeth barhaus sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i Lysgenhadon Ifanc i ddatblygu’n arweinwyr ifanc hyderus, llawn cymhelliant a medrus. Rydym am iddynt ddysgu drwy arweinyddiaeth drwy ddarparu cyfleoedd a phrofiadau cadarnhaol ac ystyrlon a fydd yn gwella eu sgiliau annatod. 

  • Pwrpas: Trwy gydweithio traws-sector, datblygu, cefnogi a grymuso Llysgenhadon Ifanc ar y cyd i hwyluso gweithgareddau, adeiladu perthyn, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, a defnyddio pŵer eiriolaeth i helpu i drawsnewid Cymru i ddod yn genedl fwy egnïol ac iachach


Pam ddylech chi ddod yn Llysgennad Ifanc

Mae’r rhaglen LlI yn grymuso’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr hyderus a galluog, gan gynnig cyfle unigryw i ddatblygu hunanhyder, hunan-barch, hyfforddiant ymarferol a sgiliau cyflogadwyedd. Mae'r rhaglen hon a gydnabyddir yn genedlaethol yn rhoi'r offer sydd eu hangen ar gyfranogwyr i lwyddo, gan agor drysau i gyflogaeth a chymwysterau gwerthfawr.







Sut i Gymryd Rhan

Os ydych chi'n fyfyriwr ym Met Caerdydd ac yn dymuno cymryd rhan yn ein rhaglen Llysgenhadon Ifanc llenwch y ffurflenni isod i gofrestru eich diddordeb.