Mae Cymuned y Met yn cefnogi pobl anabl o bob oed, wrth ddod o hyd i glybiau a sesiynau lleol sy'n ymrwymedig i gynhwysiant anabledd a darparu cyfleoedd o safon.
Ein Cenhadaeth
Sicrhau bod pob person anabl yng Nghaerdydd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ystyrlon a phriodol fel cyfranogwr, gwirfoddolwr neu hyfforddwr.
Mae cynyddu nifer y cyfleoedd gweithgarwch corfforol cynhwysol yn allweddol i roi ystod eang o opsiynau i bobl anabl ddewis ohonynt. Drwy gefnogi clybiau lleol i ddod yn fwy cynhwysol, gallwn helpu i gau'r bylchau mewn cyfranogiad a grëir gan anfantais ac anghydraddoldeb.
~ Joanna Coates-McGrath, Cydgysylltydd Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Anabledd
Cyfeiriadur y Clwb Anabledd
Chwilio 'Anabledd' i arddangos clybiau a sesiynau chwaraeon anabledd a chynhwysol yng Nghaerdydd!
Hwyl i'r Teulu
Mae Hwyl i'r Teulu yn annog teuluoedd i dreulio amser o safon gyda'i gilydd drwy weithgarwch corfforol a chwarae. Mae'r sesiynau wedi'u hanelu at deuluoedd â phlant 3 i 10 oed ac mae'n dysgu amrywiaeth o gemau hwyliog y gall teuluoedd eu chwarae gartref.